P-04-646 Canllawiau Anstatudol yng Nghymru ar Gyfer Awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref
Geiriad y deiseb
Ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai canllawiau anstatudol newydd yn cael eu llunio ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref, yn dilyn ymgynghoriad â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref.
Mae canllawiau drafft wedi'u cyhoeddi i ymgynghori arnynt ac nid ydynt yn adlewyrchu safbwyntiau cryf y teuluoedd hynny sy'n addysgu yn y cartref.Credwn fod y canllawiau hyn wedi'u hysgrifennu'n wael, eu bod yn gamarweiniol ac yn debygol o arwain at fethiant pellach yn y gydberthynas rhwng teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref ac awdurdodau lleol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i dynnu'r canllawiau drafft yn eu hôl gan nad ydynt yn addas at y diben.
Yn hytrach, dylai awdurdodau lleol weithio tuag at ddangos eu dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n bodoli eisoes ynghylch addysg yn y cartref, a chydymffurfio â'r canllawiau cyfredol sydd wedi'u diffinio'n glir.
.
Prif ddeisebydd: Lucy Bear
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:
Nifer y deisebwyr:2,140 llofnod ar lein